Uh oh, you are using an old web browser that we no longer support. Some of this website's features may not work correctly because of this. Learn about updating to a more modern browser here.

Skip To Content

Sut y mae ymdeimlad o gymuned yn helpu plant yng Nghymru

Ysgrifennwyd y blog yma gan Natalie Johnson, Rheolwr Rhaglenni Achub y Plant, Cymru.

Read the blog in English here.

Yn ddiweddar fe ddois ar draws rhai o hen lyfrau What Katy did Next fy Mam-gu a roddodd i mi pan oeddwn i tua naw oed. Dw i wedi eu trysori hyd heddiw a’r tu mewn i un llyfr fe ganfyddais Glychau’r Gog wedi eu gwasgu ac wedi gwywo, ond dal mewn un darn.

Un o brofiadau hapusaf fy mhlentyndod oedd casglu Clychau’r Gog gyda fy Mam-gu yng Nghoedwig Smilog ger Llantrisant a chreu straeon dychmygol am dylwyth teg a chreaduriaid hudolus oedd yn byw yn y goedwig. Roedd y ddwy ohonom yn caru casglu blodau gwylltion gyda’n gilydd er mwyn i mi gael mynd â nhw adref i’w gwasgu, gan stopio am hufen iâ ar y ffordd yn ôl.

Fe’m magwyd ym Mhentre yn y Rhondda Fawr ac mae gen i atgofion melys o blentyndod hapus yn chwarae yn yr awyr agored, yn adeiladu cuddfannau ac yn cael hwyl ar y mynydd ac yn y parciau cyfagos. Roedd yn blentyndod llawn cariad a sicrwydd, gyda rhieni cefnogol a theulu agos. Fe wyddwn mai dyma’r math o blentyndod roeddwn i eisiau ei roi i fy mhlant fy hun, sydd erbyn hyn yn 17 ac 19 mlwydd oed. Fy nymuniad oedd iddyn nhw allu profi’r hyn a wnes i – cael bod yn rhan o deulu cariadus ac i ffynnu yn rhan o gymuned glos.

Grym y gymuned glos

Yn hanesyddol mae cymunedau glofaol de Cymru yn enwog am fod yn glos. Yn y pentref ble fy magwyd i roedd pawb yn adnabod ei gilydd. Roedden ni yn arfer galw cymdogion yn ‘Antis’ ac ‘Yncls’ er nad oeddynt o unrhyw berthynas gwaed i ni, ac roedd yr ysgol Sul, dosbarthiadau dawns a’r Brownies yn rhan bwysig o’m mywyd i. Roedd yna ymdeimlad o gymuned wirioneddol gyda phawb yn barod i helpu ei gilydd pan fo’r angen. Yn ystod cyfnod Streic y Glowyr yn yr 80au dwi’n cofio sut y daeth pobl ynghyd i drefnu digwyddiadau, parêd ac i addurno fflôt er mwyn codi arian ar gyfer y teuluoedd hynny oedd yn cael eu heffeithio gan y Streic, rhai ohonynt yn byw ar yr un stryd â mi.

Dwi’n hanu o deulu o gantorion ac roedd fy Nhad yn arfer cynnal cyngherddau elusennol. Mam oedd yn gyfrifol am y trefniadau ac roedd yna wastad fwrlwm yn ein tŷ ni ar yr adegau yma. Dw i’n teimlo i mi gael fy amgylchynu gan bobl ddylanwadol iawn a’m dododd ar ben ffordd ac fe ddysgais lawer gan y gymuned yr oeddwn yn rhan ohoni fel plentyn. Dw i’n hoffi bod o gwmpas pobl, gwrando arnyn nhw a thrio helpu os gallai. Dwi’n credu mai dyna sydd yn gyfrifol am y ffaith fy mod yn gwneud fy swydd i heddiw.

Camau bach, camau breision

Gweld pobl yn gallu gorchfygu eu problemau a chyflawni pethau mawr gydag ychydig o anogaeth – dyna sydd yn rhoi gwên ar fy wyneb. Yn ystod fy nghyfnod fel Swyddog Ymgysylltu Teuluoedd yn Ysgol Gynradd Treorci doedd dim yn rhoi mwy o foddhad i mi na gweld plant a’u rhieni yn magu hyder. Roedd yn bleser i weld y plant yn datblygu i wneud yn well yn yr ysgol a theuluoedd yn rhyngweithio mwy gyda’i gilydd.

Dw i’n cofio gweithio gyda dwy fam. Doedd ganddyn nhw ddim hunan-hyder ac roedd swyddi da a gwyliau dramor yn bethau yr oedd pobl eraill yn ei fwynhau yn eu tyb hwy. Roedd yn anodd eu cael nhw i ddod drwy ddrws yr ysgol ar y dechrau, ond unwaith iddyn nhw groesi’r trothwy fe ymunon nhw mewn sesiynau coginio a gwnïo a dychwelyd wythnos ar ôl wythnos. Fe ddywedodd un ohonyn nhw, “Fe hoffwn i allu coginio cinio dydd Sul fel un Mam!” A dyna’n union wnaethon ni. Roedd eu gweld yn datblygu ac yn ffynnu yn gwneud i mi deimlo fel mam falch fy hunan!

Pan ddaeth Achub y Plant i Ysgol Gynradd Treorci fe ymunodd y ddwy fam yn un o’n rhaglenni ymgysylltu teuluoedd. Fel gyda nifer o deuluoedd eraill o’r ysgol roedd yn rhaid dwyn cryn dipyn o berswâd arnyn nhw, ond fe ddaethant i’r sesiynau a chyn hir roedd yn amlwg eu bod yn mwynhau a chael dod i adnabod rhai o’r teuluoedd eraill a choginio pryd ar y cyd. Roedd y rhieni o’r ysgol honno yn siarad am y rhaglen am flynyddoedd ac roedd yn amlwg wedi creu perthynas agos rhwng y rhieni, staff yr ysgol ac aelodau o’r gymuned. Fel rhan o’u taith anhygoel fe aeth y ddwy fam yn eu blaenau i astudio yn y brifysgol ac i dderbyn eu graddau.

Yr angen i weithio law yn llaw er budd y plant yn y gymuned

Fel rhan o fy swydd fel Rheolwr Rhaglenni gydag Achub y Plant rwyf ar hyn o bryd yn gweithio mewn cymuned yng Nghasnewydd sydd wedi ei dewis fel ardal ffocws ar gyfer ein gwaith. Mae Achub y Plant wedi gweithio yng Nghasnewydd ers 2013. Rydym wedi cefnogi bron i 600 o deuluoedd yno i greu awyrgylch bositif o fewn y cartref drwy ein rhaglen Bwyta, Cysgu, Dysgu, Chwarae! ac wedi gweithio gyda 13 o ysgolion i wella ymgysylltiad teuluol mewn addysg gynnar. Mae Casnewydd yn un o’r pum ardal sydd wedi ei dewis ar gyfer ‘Rhoi Plant yn Gyntaf’ –  prosiect arloesol Llywodraeth Cymru i annog y gymuned leol a sefydliadau i gydweithio i fynd i’r afael ag anghenion penodol plant a phobl ifanc. Mae Achub y Plant yn cynnig cefnogaeth i droi hyn yn realiti.

Fy nod yw gallu dod â phartneriaid lleol at ei gilydd a’u helpu i fod yn fwy cydweithredol yn eu gwaith gyda theuluoedd lleol er mwyn gwneud yn siŵr fod y plant yn y gymuned yn cael y gefnogaeth orau bosib yn ystod eu blynyddoedd cynnar allweddol. Mae dod â phawb ynghyd o fewn yr un ystafell i drafod ac i ddod i ddeall pa ddarpariaeth sydd eisoes ar gael yn y gymuned wedi profi’n hynod fuddiol gyda phawb yn cytuno fod angen gwyro rhag y duedd o weithio yn ynysig a pheidio â rhannu gwybodaeth. Rydym i gyd yn gytûn ein bod angen gweithio law yn llaw.

Mae’r gwaith eisoes ar droed yng Nghasnewydd. Mae’n amlwg for yr ewyllys yno gyda’r holl ‘Antis’ a’r ‘Yncls’, fel yn fy nyddiau i, wrth law yn barod i wneud i bethau ddigwydd. Mae’n braf hefyd gwybod fod gennym gefnogaeth athrawon a staff ysgol brwdfrydig ac ymarferwyr ysbrydoledig o fewn y gymuned. Yn ddiweddar fe gynhalion ni weithdai yn Pillgwenny, un o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, i drafod gyda phartneriaid sut y gallwn gyfuno gwybodaeth gymunedol, gwyddoniaeth ac ymchwil er budd plant yr ardal.

Dod â phob ynghyd yn y gymuned fel y gall pob plentyn, gyda’r gefnogaeth gywir, flodeuo mewn bywyd. Dyna’r nod. A dyna ble y gallwn ni gynnig help llaw.

Am fwy o wybodaeth am waith Achub y Plant yng Nghymru ewch i www.savethechildren.org.uk/wales

Share this article